
Ailgylchu: Cam Allweddol Tuag at DyfodolCynaliadwy
Oct 20, 2024
3 min read
1
1
0
Buasech chi’n meddwl erbyn 2024 byddai pawb wedi dod i ddeall bod ailgylchu yn
weithred ddyddiol hanfodol ar gyfer dyfodol mwyaf llachar posib ein planed ni? Wel, y
gwir yw nid yw pawb wedi. Yn ôl “The Big Plastic Count” , dim ond 17% o wastraff
plastig y DU sy’n cael eu hailgylchu.
Yn y DU gall 80% o’r gwastraff cyffredinol yn y bin du arferol cael ei ailgylchu yn lle. Er
enghraifft, gall caniau alwminiwm cael eu hailgylchu a bod yn barod i ddefnyddio eto o
fewn tua 6 wythnos, ac eto, mae’r DU yn anfon 80 miliwn o ganiau bwyd a diod i
safleoedd tirlenwi yn ddyddiol. Os, yn hytrach, cafodd pob can yn y DU eu hailgylchu,
byddai modd i ni gael gwared â 14 miliwn bin sbwriel, a fyddai’n arbed arian ac amser.
Pam ydy ailgylchu mor bwysig, chi’n gofyn? Yn gyntaf, mae ailgylchu yn lleihau ein
dibyniaeth ar ddefnyddiau naturiol, sydd yn golygu mae llai o ddefnyddiau cyfyngedig,
er enghraifft tanwyddau ffosil, yn cael eu defnyddio i fyny. Yn ail, pan nad yw plastig yn
cael ei ailgylchu, mae’n gallu diweddu lan yn ein moroedd a gall hwn gael effaith
catastroffig ar fywyd morol. Mae ystadegau’n dangos bod 100 miliwn o anifeiliaid morol
yn marw pob blwyddyn o wastraff plastig yn unig. Gall gwybod y ffeithiau hyn gwneud i
ni gredu bod y rheini sydd ddim yn rhoi ymdrech i mewn i ailgylchu yn greulon ac yn
anwybodus. Efallai nid eu bai nhw ydy hynny.
Newid Ysbrydoliaethol trwy mentrau Cynghorau a’r gymuned
Gydag ymwybyddiaeth gynyddol o garfannau amgylcheddol, megis Greenpeace, mae
pwysau cynyddol ar lywodraeth y DU a chynghorau lleol i wella ymarferion ailgylchu. Y
ffordd gyntaf gall ein cynghorau lleol gwneud mwy i gynyddu faint o bobl sy’n ailgylchu’n
gywir byddai trwy gymhelliannau. Gallai hyn cael ei gyflawni trwy longyfarch a chanmol
ailgylchu mewn rhannai penodol o’r gymuned ar gyfrifau cyfryngau cymdeithasol y
cynghorau. Yn ychwanegol, byddai rhywbeth mor syml â gosod bainc mewn parc lleol
sydd wedi cael ei greu allan o bren sydd wedi cael ei ailgylchu gan y gymuned yn gallu
cymhelli bobl yr ardal i feddwl yn fwy positif a gweithredol am ailgylchu o ddydd-i-ddydd.
Mae strategaeth arall yn cynnwys arddangos delweddau pwerus o ganlyniadau
gwastraff tir-lenwi a llygredd plastig. Gall y delweddau yma atgoffa pobl o effaith bywyd
go iawn eu harferion ailgylchu.
Yn drydydd, gall pob cyngor sefydlu digwyddiadau pigo sbwriel i fyny wythnosol yn eu
hardaloedd fel bod y nifer helaeth o’r sbwriel ar ein strydoedd yn gallu cae ei ailgylchu
yn lle ei wastraffu.
Gall cynghorau hefyd annog pobl leol i gymryd rhan trwy gyd-weithio gyda dylanwadwyr
cyfryngau cymdeithasol a phostio lluniau o’r dylanwadwyr yn pigo sbwriel i fyny ar
gyfryngau cymdeithasol y cyngor.
Gwneud Ailgylchu’n Rhan o Fywyd Pob Dydd
Tra byddai’r mentrau yma’n debygol o annog mwy o bobl i ailgylchu, gall y rheini
ohonom ni sydd yn barod wedi ymrwymo i'r achos gwneud hyd yn oed mwy o
wahaniaeth. Os ydych yn ansicr o sut i waredu eitem, gall ymchwiliad cyflym ar lein
darparu’r ateb. Helpwch eraill-ffrindiau, aelodau teulu, neu gydweithwyr- i ddeall beth
sydd yn gallu ac sydd ddim yn gallu cael ei ailgylchu.
Gwyddoch chi fod un dunnell fetrig o sgrap electronig o gyfrifiaduron personol yn
cynnwys mwy o aur na 17 tunnell o fwyn wedi’i fwyngloddio? Yn lle taflu difais electronig
i ffwrdd, ystyriwch gymryd eiliad i leoli eich safle e-wastraff agosaf, megis siop
electronig neu safle ailgylchu penodedig.
Cymru: Arwain y DU mewn ailgylchu
Yma yng Nghymru, ni yw’r wlad orau am ailgylchu yn y DU ac yn fwy nodedig, yr ail-
wlad orau yn y byd. Fodd bynnag, er gwaethaf y llwyddiannau yma, dim ond 59% o ein
gwastraff sydd yn cael ei ailgylchu. Tra ein bod ni wedi gosod sylfaen cryf yn y frwydr yn
erbyn newid hinsawdd, mae dal mwy o waith i gael ei wneud. Yn symud ymlaen,
cyfrifoldeb y llywodraeth ac ein cyfrifoldeb ni yw hi i adeiladu ar y sylfeini gwyrdd yma ac
i gymryd gweithredoedd pellach tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol.